Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno ymuno â chynllun astudio ôl-raddedig Prifysgol Cymru ddiwallu gofynion matriciwleiddio’r Brifysgol, fel arfer ar sail meddu ar radd gychwynnol gydnabyddedig neu gyfatebol.
Caiff y Brifysgol gymeradwyo matriciwleiddio ymgeiswyr i rai cynlluniau astudio os yw eu diffyg cymwysterau wedi’i gydbwyso â phrofiad perthnasol. Fel y disgrifir yn y Protocol ar gyfer Matriciwleiddio Ymgeiswyr i Raddau Uwch Prifysgol Cymru Trwy Gwrs ar Sail Profiad Perthnasol mae’n ofynnol i bob Canolfan Gydweithredol sefydlu pwyllgor derbyn fydd yn drafftio set o feini prawf derbyn penodol i’r cynlluniau ar sail profiad. Rhaid i safonwr y cwrs gymeradwyo’r meini prawf gyda thystiolaeth wedi’i hanfon i’r Gofrestrfa cyn y gellir derbyn ceisiadau ar sail profiad.
Dylai Canolfannau Cydweithredol anfon ffurflenni cais matriciwleiddio wedi’u cwblhau i’w Swyddog Cymorth dynodedig cyn dechrau’r cwrs. Caiff llythyrau eu darparu i’r Canolfannau Cydweithredol i fyfyrwyr sy’n matriciwleiddio’n llwyddiannus. Nid yw matriciwleiddio’n golygu bod y myfyriwr wedi’i gofrestru gyda’r Brifysgol. Rhaid cyflwyno Trosglwyddiad Cofrestru ar wahân i’r Brifysgol er mwyn cofrestru cohort o fyfyrwyr. Gweler y Dudalen Cofrestru Myfyrwyr am gyfarwyddiadau.