Dogfennau Cwrs

Bob blwyddyn rhaid i’r holl ganolfannau cydweithredol anfon copi o’u dogfen cwrs, manyleb rhaglen a llawlyfr myfyrwyr ar gyfer pob un o’u rhaglenni dilysedig ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.

Mae rhaglenni astudio yn agored i’w newid drwy ddiwygiadau i asesu, cynnwys y rhaglen a staffio (yn dilyn cymeradwyaeth y Brifysgol) a rhaid diweddaru dogfennau eich cwrs i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Mae cyflwyno’r dogfennau hyn i ni’n flynyddol yn sicrhau bod gennym ni’r wybodaeth ddiweddaraf am eich rhaglenni.

Dylid cyflwyno’r ddogfen i’r Brifysgol yn Saesneg. Caiff ei darparu i chi gan eich Safonwr Prifysgol Cymru i’w hadolygu.

Manylebau rhaglen

 

Mae manylebau rhaglen yn darparu crynodeb o amcanion, deilliannau dysgu bwriedig a chyflawniadau dysgwyr disgwyliedig y cynlluniau astudio a’r modd y caiff y deilliannau eu cyflawni.

I’r canolfannau hynny sy’n cynnig cynlluniau astudio mewn iaith ar wahân i’r Saesneg, rhaid cyflwyno’r fanyleb yn y rhaglen cyflwyno, yn ogystal â’r Saesneg. Caiff ei darparu i chi gan eich Safonwr  i’w hadolygu a gellir ei chyhoeddi ar ein gwefan.