Datganiad yr Is-Ganghellor i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr
Ym mis Hydref 2011, ymrwymodd cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i newid cyfansoddiadol di wrthdro ac uno. Bydd yr uno hwn yn digwydd dan Siarter Brenhinol 1828 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Cwblhawyd cam cyntaf y broses hon yn 2012 gydag uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn ogystal â chreu Adduned Cymru. Ym mis Awst 2017, cymeradwyodd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant weithred uno oedd yn cyflawni’r amcan polisi gwreiddiol o integreiddio dwy Brifysgol hanesyddol, gan greu Prifysgol newydd i Gymru.
Bydd y penderfyniad hanesyddol hwn, oedd yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru ar y pryd ar gyfer ailstrwythuro’r sector addysg uwch yng Nghymru, yn caniatáu i Brifysgol Cymru barhau a’i chenhadaeth a’i hymrwymiad i gefnogi bywyd academaidd, diwylliannol ac economaidd Cymru fel rhan o brifysgol fwy o faint ar ôl uno.
Myfyrwyr Newydd
Os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs Prifysgol Cymru byddwch yn cael eich trin yn yr un ffordd â’r myfyrwyr presennol a myfyrwyr y gorffennol, ac os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn gadael gyda dyfarniad Prifysgol Cymru.
Myfyrwyr Presennol
I’r holl fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau tuag at ddyfarniad Prifysgol Cymru ar hyn o bryd, bydd Prifysgol Cymru yn parhau yn gorff dyfarnu graddau trwy gydol eu hastudiaethau. Bydd myfyrwyr yn parhau i astudio’r un cwrs yn eu sefydliadau priodol, ac wedi iddynt gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddant yn derbyn tystysgrif gradd fydd yn dangos “Prifysgol Cymru” fel y corff dyfarnu graddau.
Os ydych yn astudio mewn sefydliad yng Nghymru, cyfeiriwch unrhyw gwestiynau pellach sydd gyda chi at gyngor eich sefydliad.
Cyn-fyfyrwyr
Bydd myfyrwyr yn cadw’r dyfarniad Prifysgol Cymru a enillwyd ganddynt ar raddio ac yn parhau i fod yn aelodau gwerthfawr o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.
Mae gan filoedd o raddedigion ledled y byd radd gan Brifysgol Cymru. Mae gan radd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru etifeddiaeth gref ac maent yn cael eu cydnabod, ac yn uchel eu parch, gan gyflogwyr trwy’r byd i gyd. Ni fydd gwerth hyn yn newid.
Gall myfyrwyr a graddedigion weld rhestr o Gwestiynau Cyffredin sydd wedi eu llunio’n benodol i’n helpu i ateb unrhyw bryderon gan fyfyrwyr ynglŷn â’r newidiadau hyn. Rydym yn deall gwerth a phwysigrwydd ein myfyrwyr a graddedigion ac, fel sy’n cael ei ddatgan yn barhaus, byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i’r holl fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Prifysgol Cymru ar hyn o bryd.
Yr Athro Medwin Hughes
Is-Ganghellor