Skip page header and navigation

Atodiadau Diploma ac Adysgrifau

Beth yw Atodiad Diploma?

Dogfen yw’r Atodiad Diploma sydd wedi’i chysylltu â thystysgrif addysg uwch ac sydd â’r nod o wella tryloywder rhyngwladol a hwyluso cydnabyddiaeth academaidd a phroffesiynol i gymwysterau.

Fe’i datblygwyd gan nifer o grwpiau o fewn y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae’n clymu’n glos ag amcan Proses Bologna i greu system o ddogfennau darllenadwy a chymaradwy.

Am ragor o wybodaeth am yr Atodiad Diploma, gweler Canllaw i’r Atodiad Diploma Uned Ewrop.

Pwy sy’n gymwys?

Bydd pob myfyriwr sy’n gofrestredig ar raglenni dilysedig Prifysgol Cymru o 1 Ionawr 2005 ymlaen yn derbyn atodiad Diploma cyhyd â’u bod yn cwblhau’r dyfarniad.

Bydd myfyrwyr nad ydynt yn llwyddo i sicrhau dyfarniad, neu sy’n derbyn cymhwyster ymadael, yn derbyn Adysgrif Prifysgol Cymru.

Mae myfyrwyr a gwblhaodd eu dyfarniad yn llwyddiannus cyn 1 Ionawr 2005 yn gymwys i dderbyn Adysgrif Prifysgol Cymru drwy wneud cais

Sut caiff ei baratoi?

Ceir 7 templed atodiad diploma i bob math o ddyfarniad.

Dylai canolfannau cydweithredol gwblhau’r rhain yn unol â Nodiadau Canllaw ar gyfer Paratoi Adysgrifau ac Atodiadau Diploma PC.

Dylid anfon adysgrifau ac atodiadau diploma drafft i registryhelpdesk@cymru.ac.uk  ar ffurf atodiadau ebost, ac o fewn pythefnos i gyfarfod o’ch bwrdd arholi neu hysbysu am ganlyniadau’r traethawd ymchwil.

Pryd fydd yn cael ei gyflwyno?

Cyhyd â bod yr wybodaeth a gyflwynir yn gywir ac o fewn y ffrâm amser penodedig, byddai’r Brifysgol fel arfer yn disgwyl anfon dogfennau ffurfiol ynghyd â thystysgrifau’r dyfarniad at y canolfannau cydweithredol o fewn pedair wythnos i dderbyn y drafftiau