Skip page header and navigation

Darpar-Fyfyrwyr

Gwybodaeth ar gyfer Darpar-Fyfyrwyr

Sefydlwyd Prifysgol Cymru ym 1893. Dyma’r corff sy’n dyfarnu graddau i fyfyrwyr addysg uwch yn ei sefydliadau achrededig a chysylltiedig trwy Gymru yn ogystal â dros 100 o sefydliadau partner cydweithredol mewn dros 30 o wledydd.

Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnwys canolfan ymchwil gymeradwy, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; Gwasg Prifysgol Cymru; yr Academi Fyd-eang a chanolfan gynadledda yng nghefn gwlad Cymru.

Rhaglen a gynlluniwyd gan eich sefydliad chi ac a gyflwynwyd i’w chymeradwyo ger bron Prifysgol Cymru yw rhaglen ddilysedig. Mae Dilysu yn golygu bod eich rhaglen yn cyfateb o ran lefel a safon i raglenni tebyg a gynigir trwy’r sector addysg uwch yn y DU.

Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â’i gweithgaredd dilysu i ben yn ei ffurf bresennol. Mae’r Brifysgol yn datblygu model addysgol rhyngwladol newydd, a gaiff ei gyhoeddi maes o law.

Bydd canolfannau cydweithredol cyfredol yn gallu parhau i recriwtio myfyrwyr yn unol â thelerau eu cytundeb dilysu.

Caniateir i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen Prifysgol Cymru yn unol â’r Cytundeb Dilysu barhau â’u hastudiaethau hyd nes y bydd eu rhaglen gyfredol wedi’i chwblhau.

A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, byddwch:

  • yn astudio o dan Reoliadau a Gweithdrefnau Prifysgol Cymru
  • yn gwybod bod Prifysgol Cymru yn sicrhau ansawdd eich rhaglen
  • defnyddio Llyfrgell Ar-lein Prifysgol Cymru sy’n cynnwys eLyfrau, eGyfnodolion a chronfeydd data o safon
  • cwrdd ag academyddion Prifysgol Cymru pan fyddant yn ymweld â’ch Sefydliad
  • cymryd rhan mewn Dathliad Graddio i ddathlu eich camp
  • dod yn aelod o gymdeithas cyn-fyfyrwyr y Brifysgol
  • gwneud cais am ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru i dalu ffioedd dysgu
  • gwneud cais i fod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ar Bwyllgorau Prifysgol Cymru
  • Mae Prifysgol Cymru’n gweithio gyda nifer fawr o Sefydliadau yng Nghymru a thrwy’r byd i gyd – defnyddiwch yr adnodd Chwilio am Gwrs i weld os oes cwrs ar gael yn eich gwlad chi.

    Mae cynlluniau astudio a restrir yma yn cael eu dilysu gan Brifysgol Cymru, ond cynghorir darpar fyfyrwyr i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r ganolfan gydweithredol am wybodaeth ynglŷn â dyddiadau derbyn myfyrwyr yn y dyfodol.

  • Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr holl sefydliadau y mae’r Brifysgol yn gweithio gyda nhw ar ein gwefan trwy ddefnyddio’r adnodd Chwilio am Sefydliad

  • Mae’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo yn gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â theitheb. Am ragor o wybodaeth gweler gwefan Asiantaeth Ffiniau’r DU