Skip page header and navigation

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Cyflwyniad i'r Ganolfan

CAWCS building

Cyflwyniad i'r Ganolfan

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn sefydliad ymchwil wedi’i leoli gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Yr ydym yn cynnal prosiectau cydweithredol ar iaith, llên a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Cadarnhawyd ein statws fel canolfan ragoriaeth ryngwladol ym maes Astudiaethau Celtaidd gan ganlyniad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, a ddyfarnodd fod 74% o’n gwaith ymchwil o’r safon uchaf yn fyd-eang neu’n rhagori’n rhyngwladol (4/3*).

  • Sefydlwyd y Ganolfan gan Brifysgol Cymru yn 1985, a chanddi lyfrgell sylweddol sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd yn adnodd amhrisiadwy ym maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Y Cyfarwyddwr cyntaf oedd yr Athro R. Geraint Gruffydd, a’r prosiect cyntaf oedd darparu golygiad o holl gerddi Beirdd y Tywysogion, a gyhoeddwyd mewn saith cyfrol (1991–6).

    Yn 1993 symudodd y Ganolfan i adeilad pwrpasol wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn yr un flwyddyn penodwyd yr Athro Emeritws Geraint H. Jenkins yn Gyfarwyddwr, a gwelwyd cynnydd mawr yng ngweithgareddau’r Ganolfan dros y pymtheng mlynedd nesaf, gyda thri phrif brosiect yn cydredeg yn fuan.

    Y mae’r prosiectau a gwblhawyd yn cynnwys Beirdd y Tywysogion, Beirdd yr Uchelwyr, Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg, Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol,  Diwylliant Gweledol Cymru, Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru, Barddoniaeth Guto’r Glyn a Cymru a’r Chwyldro Ffrengig.

    Y mae Geiriadur Prifysgol Cymru bellach yn un o brif brosiectau’r Ganolfan. Y prif brosiectau cyfredol eraill yw Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i’r Alban, Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau, Cwlt y Seintiau, ac Enwau Lleoedd Sir Amwythig. Ar hyn o bryd y mae gan y Ganolfan staff o dros ddeg ar hugain. Y Cyfarwyddwr presennol, a benodwyd yn sgil ymddeoliad yr Athro Emeritws Dafydd Johnston ym mis Rhagfyr 2020, yw’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

    Y mae’r Ganolfan yn cynnal digwyddiadau sy’n agored i’r cyhoedd yn rheolaidd, gan gynnwys ffora blynyddol sy’n berthnasol i’n prosiectau cyfredol, cynadleddau pwysig ym maes Astudiaethau Celtaidd, a seminarau pythefnosol yn ystod tymhorau’r gaeaf a’r gwanwyn.

    Prifysgol Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n darparu arian craidd y Ganolfan, a cheir cyllid ychwanegol ar gyfer y prosiectau gan Gynghorau Ymchwil ac elusennau yn y DU, yn ogystal â chan yr Academi Brydeinig ac amrywiol ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Ar hyn o bryd yr ydym yn derbyn grantiau ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar gyfer ein prosiectau ar Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau, Cwlt y Seintiau, a Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i’r Alban.

    Y mae Astudiaethau Celtaidd yn rhan ganolog o genhadaeth y Ganolfan ac yn ddisgyblaeth academaidd eang sy’n cwmpasu ieithoedd, llenyddiaethau, hanes a diwylliannau Cymru, Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw, yn ogystal â rhanbarthau helaeth o gyfandir Ewrop a chanolbarth Asia Leiaf mewn cyfnodau cynnar. Myn rhai fod celfyddyd, cerddoriaeth, llenyddiaeth, crefydd, a hyd yn oed fydolwg hanfodol Geltaidd yn bodoli. Ond y sail gadarnaf yn wyddonol dros gyfuno astudiaethau ar y bobloedd Celtaidd yw’r berthynas systematig a welir rhwng eu hieithoedd. Wrth gymharu’r rhain ceir awgrym o darddiad cyffredin, y sylwyd arno yn gyntaf gan Edward Lhwyd yn ei Archaeologia Britannica yn 1707. Y mae’n rhyfeddol i ba raddau y mae Celtiaid y dychymyg cyfoes a hyd yn oed i’r arbenigwyr yn parhau i fod yr un peth yn y bôn â Cheltiaid Lhwyd. Dyna sut y daethant i’r golwg yng ngwawr yr ymchwil wyddonol - ac ym mlwyddyn sefydlu’r wladwriaeth Brydeinig - ar y tir cyffredin a ddarganfuwyd rhwng y Brythoniaid, y Gaeliaid a’r Galiaid hynafol. A hwythau wedi magu rhwydwaith braff o wreiddiau yn y dychymyg gorllewinol yn ystod y 300 mlynedd a aeth heibio ers hynny, mae’r syniadau hen ffasiwn ynglŷn â’r Celtiaid yn parhau o hyd, yn wyneb llif o dystiolaeth newydd sydd wedi codi o ieithyddiaeth hanesyddol, archaeoleg a geneteg. Y mae ailystyriaeth radical am wreiddiau’r ieithoedd Celtaidd a’r grwpiau y cyfeirir atynt fel Celtiaid yn ganolog i brosiect cyfredol y Ganolfan ar ‘Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau’ dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

    Y mae’r Celtiaid yn sicr wedi gwneud cyfraniad sylweddol i wareiddiad cyfandir Ewrop oddi ar Oes yr Efydd. Er iddynt gael eu gwthio i’r cyrion a’u gormesu gan bwerau imperialaidd, y mae eu hieithoedd a’u diwylliannau yn parhau i oroesi, i ymaddasu ac i ddatblygu yn y cyfnod modern. Y mae traddodiad barddol Cymru ac Iwerddon ymhlith trysorau lled anghyfarwydd Ewrop yn yr Oesoedd Canol, ac eto y mae gan y ddwy wlad lenyddiaethau cyfoes sydd hefyd yn ffynnu. Er bod Astudiaethau Celtaidd yn cynnig cipolwg cyfoethog ar ein traddodiad ac ar ein hetifeddiaeth ddiwylliannol, nid disgyblaeth sy’n edrych yn ôl yn unig mohoni. Y mae hefyd yn cynnig cyfleoedd hanfodol ar gyfer astudio a chyfoethogi ein diwylliant cyfoes ac ar gyfer cynllunio dyfodol ein hieithoedd a’n cymunedau. Fel y mae’r ymwybyddiaeth gyhoeddus ynglŷn â’r difodiant buan sy’n wynebu miloedd o ieithoedd llai y ddaear yn cynyddu, y mae i ieithoedd Celtaidd heddiw arwyddocâd arbennig ar gyfer astudio goroesiad mewn cyswllt agos ag iaith gryfaf y byd.

    Ceir rhagor o wybodaeth am y Celtiaid a’r dulliau newydd o ymdrin â dirgelwch tarddiad yr ieithoedd Celtaidd yn y gweithiau canlynol a olygwyd gan yr Athro John T. Koch, Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (5 cyfrol, 2006) a’r Atlas for Celtic Studies (2007). Gweler hefyd Barry Cunliffe a John Koch (goln.) Celtic from the West (2010, 2012) a Celtic from the West 2 (2013). 

Rhagor amdanom

Hanes Cynnar y Ganolfan adeg agor adeilad Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 28 Mai 1993

llanasa glass window

Information and resources regarding the current CAWCS Research Projects find the relevant project and the information in the accordions.

cawcs typography

Cydweithio

CAWCS Tile

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal cyfres o ffora (neu gynadleddau undydd) yn rheolaidd.

celtic logo on door

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn cynnig astudiaethau ôl-raddedig ar gyfer graddau ymchwil MPhil neu PhD ym meysydd Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.

four individuals smiling

Cysylltu â Ni

CANOLFAN UWCHEFRYDIAU CYMREIG A CHELTAIDD PRIFYSGOL CYMRU 
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3HH

Ffôn: +44 1970 636543

Ebost: canolfan@cymru.ac.uk  

Dilynwch ni ar Trydar, Facebook a YouTube