Skip page header and navigation

Datganiadau Myfyrwyr

Datganiadau Myfyrwyr

Gall y Brifysgol ddarparu datganiadau i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar gynlluniau astudio cydweithredol.
Mae datganiad yn wahanol i Adysgrif neu Atodiad Diploma, sy’n darparu gwybodaeth fanwl ar gynnwys cwrs y myfyriwr.

Mae datganiadau yn darparu gwybodaeth sylfaenol am ddyddiadau astudio myfyriwr, lleoliad yr astudiaethau, teitl y dyfarniad a’r canlyniad (os yw’n briodol).

Darperir datganiadau ar gais yn unig, mewn copi caled ac ar bapur swyddogol Prifysgol Cymru.

Dylai myfyrwyr holi am ddatganiadau gan eu canolfan gydweithredol. Bydd y ganolfan gydweithredol yn gofyn am ddatganiad gan y Brifysgol ar ran y myfyriwr. Bydd y Brifysgol yn anfon copïau caled o’r datganiad i’r canolfannau cydweithredol i’w dosbarthu i’r myfyrwyr.