Skip page header and navigation

Cysylltu â'r Brifysgol

Cysylltwch â ni

Trwy’r post :
Prifysgol Cymru
Cofrestrfa’r Brifysgol
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Parc Cathays
Caerdydd  
CF10 3NS
y DU

Trwy e-bost: 
Defnyddiwch ein Ffurflen Ymholiadau

Ffôn:
Ffôn  +44 (0)29 2037 6999
Ffacs +44 (0)29 2037 6980

  • Ffordd

    Gwasanaethir Caerdydd gan draffordd yr M4 ac mae’n hawdd ei gyrraedd o bob rhan o Brydain.

    Teithio i’r dwyrain ar yr M4
    Gadewch y draffordd ar Gyffordd 32 a dilyn yr A470 a’r arwyddion i Ganol y Ddinas, i ardal Cathays y ddinas.

    Teithio i’r gorllewin ar yr M4
    Gadewch y draffordd ar Gyffordd 29 a dilyn yr A48(M)/A48, arwydd Dwyrain a De Caerdydd, at yr A470. Dilynwch yr A470, a’r arwyddion i Ganol y Ddinas, i ardal Cathays y ddinas.

    Parcio
    Oni bai eich bod wedi trefnu o flaen llaw a chadarnhau gyda’r Brifysgol, nid oes parcio ar gael ym Maes Parcio’r Brifysgol i ymwelwyr.

    Mae parcio talu ac arddangos ar gael ar Rodfa’r Parc ac o fewn y ganolfan ddinesig (ar hyd Ffordd y Coleg, Ffordd Neuadd y Ddinas, Rhodfa’r Brenin Edward VII a Rhodfa’r Amgueddfa). Gan ddibynnu ymhle fyddwch chi’n parcio, mae hyn fel arfer yn costio tua 3.50 am dair awr a thelir ag arian parod neu gerdyn debyd/credyd. Gall costau meysydd parcio aml lawr canol y ddinas amrywio’n sylweddol, hyd at £15.00 y diwrnod. 

    Rheilffordd

    Y ddwy orsaf drên agosaf at Adeilad Prifysgol Cymru yw Cathays a Chaerdydd Canolog.

    Gorsaf Cathays
    Defnyddir yr orsaf hon yn gyffredinol ar gyfer teithio lleol, ac mae’n cymryd tua phum munud i gerdded o’r orsaf i adeilad Prifysgol Cymru.

    Caerdydd Canolog
    Mae gwasanaethau rheolaidd rhwng holl brif ddinasoedd Prydain a Chaerdydd yn cyrraedd gorsaf Caerdydd Canolog, ac mae’n cymryd tua 20 munud i gerdded i Adeilad Prifysgol Cymru.

    Gall teithwyr naill ai ddal trên cyswllt i orsaf Cathays, neu gymryd bws rhif 6 o du cefn i’r Orsaf ar Heol Penarth sy’n gollwng ar Rodfa’r Brenin Edward VII (taith o ddeutu deng munud).

    Os ydych chi am deithio mewn tacsi o’r orsaf, gofynnwch i gael eich gollwng wrth ymyl Gorsaf Heddlu Parc Cathays (drws nesaf i’r Brifysgol).

    Ewch i wefan National Rail Journey Planner am ragor o wybodaeth

    Awyr

    Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd tua 11 milltir o’r Brifysgol.

    Bws

    Gwasanaethir Caerdydd gan wasanaethau bws rheolaidd o drefi a dinasoedd ar draws y DU, gan gynnwys gwasanaethau uniongyrchol i Orsaf Ganolog Caerdydd o feysydd awyr Heathrow a Gatwick yn Llundain, ac mae gwasanaethau bws lleol hefyd yn gweithredu o Orsaf Ganolog Caerdydd.

    Ewch i wefannau Traveline CymruNational Express am ragor o wybodaeth.