Skip page header and navigation

Dogfennau Cwrs

Dogfennau Cwrs

Bob blwyddyn rhaid i’r holl ganolfannau cydweithredol anfon copi o’u dogfen cwrs, manyleb rhaglen a llawlyfr myfyrwyr ar gyfer pob un o’u rhaglenni dilysedig ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.

Mae rhaglenni astudio yn agored i’w newid drwy ddiwygiadau i asesu, cynnwys y rhaglen a staffio (yn dilyn cymeradwyaeth y Brifysgol) a rhaid diweddaru dogfennau eich cwrs i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Mae cyflwyno’r dogfennau hyn i ni’n flynyddol yn sicrhau bod gennym ni’r wybodaeth ddiweddaraf am eich rhaglenni.

Dylid cyflwyno’r ddogfen i’r Brifysgol yn Saesneg. Caiff ei darparu i chi gan eich Safonwr Prifysgol Cymru i’w hadolygu.

  • Mae manylebau rhaglen yn darparu crynodeb o amcanion, deilliannau dysgu bwriedig a chyflawniadau dysgwyr disgwyliedig y cynlluniau astudio a’r modd y caiff y deilliannau eu cyflawni.

    I’r canolfannau hynny sy’n cynnig cynlluniau astudio mewn iaith ar wahân i’r Saesneg, rhaid cyflwyno’r fanyleb yn y rhaglen cyflwyno, yn ogystal â’r Saesneg. Caiff ei darparu i chi gan eich Safonwr  i’w hadolygu a gellir ei chyhoeddi ar ein gwefan.

  • Bob blwyddyn rhaid i Ganolfannau Cydweithredol hefyd gyflwyno copi o’r llawlyfr myfyrwyr ar gyfer pob rhaglen ddilysedig. Dylai’r llawlyfr gynnwys gwybodaeth a gynhwysir yn adrannau 3 a 4 y Ddogfen Cwrs (ar y cynllun, cyflwyno ac asesu) yn ogystal â gwybodaeth am amserlennu cyflwyno ac asesu, adborth myfyrwyr, cymorth, gofal bugeiliol a gweithdrefnau cwyno yn ogystal â rheoliadau asesu manwl.

    Dylai canolfannau cydweithredol sicrhau bod gweithdrefnau Ymarfer Annheg, Apelio a Chwyno wedi’u cynnwys yn y llawlyfr.

    Dylid darparu gwybodaeth am y systemau ar gyfer cynnwys myfyrwyr yn nhrefniadau rheoli’r cynllun a’r trefniadau ar gyfer penodi cynrychiolwyr myfyrwyr.

    I’r canolfannau  hynny sy’n cynnig cynlluniau astudio mewn iaith ar wahan i’r Saesneg, rhaid cyflwyno’r Llawlyfr Myfyrwyr yn yr iaith cyflwyno, yn ogystal â’r Saesneg.