Skip page header and navigation

Myfyrwyr Presennol

Canllaw i Fyfyrwyr

Croeso i Brifysgol Cymru.

Rydych wedi ymuno â chymuned fyd-eang o fyfyrwyr ar raglenni Prifysgol Cymru a ddarperir yng Nghymru, gweddill y DU a thramor.

Nod y canllaw byr hwn yw cynnig arweiniad i chi i’r Brifysgol ac egluro’r berthynas sydd rhwng eich sefydliad chi a Phrifysgol Cymru. Mae hefyd yn dwyn sylw at y gwasanaethau sydd ar gael i chi ac yn eich cyfeirio chi at yr wybodaeth bellach sydd ar gael ar ein gwefan.

Gobeithio y bydd o ddefnydd i chi, a dymunwn bob llwyddiant i chi wrth astudio.

  • Gyda’r Sefydliad sy’n darparu eich rhaglen astudio fydd eich prif berthynas. Byddant yn darparu llawlyfr myfyrwyr a deunydd cwrs i chi, fydd yn darparu’r rhaglen ac yn asesu eich astudiaethau. Byddant yn darparu’r cyfleusterau fydd eu hangen arnoch er mwyn astudio’n effeithiol ac yn eich cefnogi chi wrth i chi astudio.

    Ar ddechrau eich rhaglen ddilysedig, bydd eich Sefydliad yn eich cofrestru chi gyda Phrifysgol Cymru. A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, byddwch:

    • Yn astudio o dan Reoliadau a Gweithdrefnau Prifysgol Cymru
    • Yn gwybod bod Prifysgol Cymru yn sicrhau ansawdd eich rhaglen
    • Yn cael mynediad i amryw o wasanaethau Prifysgol Cymru
  • A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, bydd modd i chi:

    • Defnyddio Llyfrgell Ar-lein Prifysgol Cymru sy’n cynnwys eLyfrau, eGyfnodolion a chronfeydd data o safon
    • Cwrdd ag academyddion Prifysgol Cymru pan fyddant yn ymweld â’ch Sefydliad
    • Cymryd rhan mewn Dathliad Graddio i ddathlu eich camp
    • Dod yn aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol
    • Llenwi Arolwg Myfyriwr Rhyngwladol ar eich profiad astudio
    • Gwneud cais i fod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ar Bwyllgorau Prifysgol Cymru
  • Wedi i’ch canlyniadau terfynol gael eu cadarnhau gan un o Fyrddau Arholi Prifysgol Cymru cânt eu cofnodi ar system cofnodion myfyrwyr y Brifysgol. Cewch eich derbyn i’ch dyfarniad in absentia ac anfonir eich tystysgrif ac Atodiad Diploma i’r Sefydliad lle buoch yn astudio.