Skip page header and navigation

Graddio

Dathliad Graddio Prifysgol Cymru 2024

Mae Dathliad Graddio Prifysgol Cymru yn gyfle i ddathlu cyraeddiadau ein graddedigion. Mae’n bleser gennym gadarnhau y cynhelir y dathliad nesaf yn Abertawe ar ddydd Llun 15 Gorffennaf 2024.

Mae cofrestru ar gyfer Dathliad Graddio 2024 bellach ar agor, defnyddiwch y ddolen a ganlyn i gofrestru eich diddordeb i fynychu’r digwyddiad - https://forms.wales.ac.uk/GradCelebForm.asp

Fel arall, anfonwch e-bost atom ar graduation@wales.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y digwyddiad.

Gwisgoedd Academaidd

Os dymunwch fynychu Seremoni Raddio, y mae gofyn ichi wisgo’r wisg academaidd lawn sy’n briodol i’r dyfarniad y’ch derbynnir iddo. Eich cyfrifoldeb chi yw archebu hon eich hun ar Ede & Ravenscroft.

Dylech archebu o leiaf 21 diwrnod cyn y seremoni gan na fydd Ede and Ravenscroft yn gwarantu’r archeb os daw i law yn hwyrach na hynny.  Peidiwch ag aros am ganlyniadau’r asesu terfynol.  Mae ad-daliadau ar gael os na allwch fynychu am unrhyw reswm, ond rhaid rhoi gwybod i Ede & Ravenscroft o fewn 7 diwrnod cyn y seremoni.  Gellir dod o hyd i’w polisi canslo ar eu gwefan. Fe fydd Ede & Ravenscroft yn cydnabod eich archeb pan fydd wedi ei phrosesu ond mae’n bosib na fyddwch yn ei dderbyn tan 10 diwrnod cyn eich seremoni.

Rhowch UWTSD pan ofynnir ichi nodi enw eich sefydliad. Fe fydd angen i chi wybod cylchedd eich pen a mesuriadau eich brest a’ch taldra.

Bydd eich gwisg yn barod i chi i’w chasglu o’r Arena ar Ddiwrnod Graddio. Dychwelwch eich gwisg yma wedi eich seremoni.

Tocynnau i Westeion

Caniateir dau docyn gwestai i bob myfyriwr ond gallwch ofyn am docynnau ychwanegol os ydych yn dymuno. Bydd y tocynnau ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni. Nid yw’r seremonïau yn addas ar gyfer plant o dan 5 oed oherwydd natur ffurfiol y gweithrediadau.

Yr ydym yn cydnabod y gall cyfyngu ar docynnau i westeion yn y ffordd yma fod yn destun siom, ond fe fyddwch yn gwerthfawrogi bod nifer y seddau yn gyfyngedig.

Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd neu ofynion mynediad penodol y mae angen i ni wybod amdanynt, anfonwch e-bost i graduation@cymru.ac.uk

Lluniau Ffurfiol

Dylid gwneud archebion am ffotograffau ffurfiol o flaen llaw yn uniongyrchol trwy Ede & Ravenscroft

Ar Ddiwrnod Graddio, bydd y stiwdio tynnu lluniau a’r ddesg werthu wedi eu lleoli yn yr Arena. 

  • Mae cofrestru ar gyfer Dathliad Graddio 2024 bellach ar agor, defnyddiwch y ddolen a ganlyn i gofrestru eich diddordeb i fynychu’r digwyddiad

  • Caerdydd

    Mae sawl maes parcio wedi’u lleoli yn agos at leoliad y seremoni – gweler y map wed’i atodi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Meysydd parcio (cardiff.gov.uk)

    Abertawe

    Mae sawl maes parcio wedi’u lleoli yn agos at yr Arena. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Meysydd parcio (Cyngor Abertawe)

  • Bydd angen i chi gyrraedd oddeutu ddwy awr cyn i’r seremoni ddechrau er mwyn rhoi amser i chi gasglu eich gwisg, rhif sedd a thocynnau gwestai. Fe fyddwn yn anfon gwybodaeth bellach ynghyd ag amserlen o ddigwyddiadau atoch wythnos cyn y seremoni.

    Bydd angen i chi fod yn eich sedd 45 munud cyn amser dechrau’r seremoni ac yn ystod yr amser hwn byddwch yn eistedd yn y sedd a ddyrannwyd i chi a bydd y Prif Dywysydd yn eich briffio.

  • Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd / ofynion mynediad penodol neu nam ar y clyw, mae angen i ni wybod amdanyn nhw. Rhowch fanylion ym mlwch ‘Manylion pellach’ ar MyTSD a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich anghenion.

    Rhowch wybod i’r staff ar y dydd hefyd fel y gellir cynnig cymorth.

  • Byddwch yn gallu casglu tocynnau eich gwestai o’r ddesg Gofrestru pan fyddwch yn cyrraedd yr Arena. Ni neilltuir seddi penodol i westeion a gall gwesteion eistedd unrhyw le yn yr awditoriwm ac eithrio’r seddi sydd wedi’u cadw ar gyfer Darpar Raddedigion, gwesteion yr Is-Ganghellor neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd seddi a gadwyd wedi eu marcio’n glir. Ceir mynediad trwy docynnau yn unig a rhaid rhoi tocynnau i’r stiwardiaid wrth y drysau. Bydd y drysau i’r awditoriwm yn agor 45 munud cyn dechrau’r seremoni.  Bydd staff yr Arena wrth law i helpu eich gwestai i ddod o hyd i’w seddi.

  • Rhaid i Ddarpar Raddedigion wisgo gwisg academaidd ar gyfer cael eu cyflwyno yn y seremoni. Rhaid hefyd wisgo’n eithaf ffurfiol. Mae angen i’r cwfl (hood) gael ei ddal yn ddiogel yn ei le wrth siaced, crys neu flows.

  • Ar ddechrau’r seremoni, bydd y graddedigion a’r gwesteion yn sefyll wrth i’r staff academaidd ymdeithio i mewn i’r awditoriwm. Yn dilyn gair o groeso, bydd yr Is-Ganghellor a/neu uwch swyddogion eraill y Brifysgol yn eich annerch.

    Wedi darlleniad o’r Proclamasiwn, cyflwynir y graddedigion i’r Is-Ganghellor (neu’r sawl a enwebwyd ganddi). Cewch eich annog gan dywyswyr i godi o’ch sedd ac aros mewn rhes yn barod i gael eich cyflwyno ar yr amser priodol.

    Bydd eich enw yn cael ei ddarllen ac ar y pwynt hwnnw byddwch chi’n esgyn i’r llwyfan, yn cerdded at yr Is-Ganghellor ac yn codi eich cap. Wedyn byddwch yn gadael y llwyfan a bydd aelod o staff yn eich tywys yn ôl i’ch sedd.

    Wedyn bydd yr Is-Ganghellor yn gofyn i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn yr un dyfarniad i sefyll a bydd yn eich cyflwyno’n ffurfiol i’ch dyfarniad. Dylech godi eich cap mewn ymateb a pharhau i sefyll er mwyn derbyn Cyfarchion y Brifysgol.

  • Gan edrych ar yr Is-Ganghellor, plygwch eich pen ychydig a naill ai cydiwch ym mhigyn blaen eich cap neu codwch eich cap ychydig. 

  • Mae hyd y seremoni yn ddibynnol ar y nifer sy’n mynychu, cysylltwch â graddio@wales.ac.uk am wybodaeth bellach. Heblaw pan fyddwch yn cael eich cyflwyno, mae’n ofynnol i chi aros yn eich sedd gydol y seremoni.