Skip page header and navigation

Ceisiadau Cadarnhau Dyfarniad

Gwybodaeth I Raddedigion

Pa un a ydych chi’n fyfyriwr cyfredol neu flaenorol ym Mhrifysgol Cymru, mae’n bosibl ar ryw adeg yn eich gyrfa y bydd angen Cadarnhad o’ch Dyfarniad arnoch (a elwir yn Ddilysiad hefyd) er mwyn dilysu eich cymhwyster/cyfnod astudio gyda thrydydd parti allanol fel darpar gyflogwr, asiantaeth wirio neu ddarparwr Addysg Uwch.

Os ydych chi’n dymuno Cadarnhad o Ddyfarniad drwy ebost bydd angen i chi lawrlwytho’r Ffurflen Cydsynio Cadarnhau Dyfarniad a’i hanfon yn ôl drwy ebost i Ddesg Gymorth y Gofrestrfa: registryhelpdesk@wales.ac.uk Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.

Mae’r ffurflen Cydsynio i Gadarnhau Dyfarniad ar gael i’w lawrlwytho yma.

Os oes angen copi caled o Gadarnhad o Ddyfarniad arnoch chi (ar bapur swyddogol Prifysgol Cymru), bydd angen i chi fynd i siop ar-lein Prifysgol Cymru a dilyn y cyfarwyddiadau ar-lein. Codir tâl o £15 am y copi cyntaf a £5 am bob copi ychwanegol.

Bydd unrhyw Gadarnhad o’r Dyfarniad a anfonir drwy ebost neu gopi caled yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol (lle bo’n briodol) yn unol â Deddf Diogelu Data 1998:

  • Enw Llawn y Myfyriwr (ar adeg astudio)
  • Dyddiad Geni
  • Rhif Prifysgol neu HESA y Myfyriwr (13 digid)
  • Rhaglen Astudio / Teitl y Cwrs
  • Corff Dyfarnu’r Cymhwyster
  • Sefydliad Addysgu / Campws lle cynhaliwyd yr astudiaethau
  • Y Dyfarniad
  • Dosbarth y Dyfarniad
  • Dyddiad Derbyn i’r Dyfarniad
  • Unrhyw Wybodaeth Arall (fel bo’n briodol)

GWYBODAETH TRYDYDD PART

Os oes angen dilysiad o ddyfarniad Prifysgol Cymru arnoch yna ebostiwch eich cais i Ddesg Gymorth y Gofrestrfa yn cadarnhau’r holl fanylion a ddelir am yr unigolyn graddedig registryhelpdesk@wales.ac.uk. Byddwn yn anfon cadarnhad o’r dyfarniad drwy ebost.

Neu, os oes gennych gopi o dystysgrif y myfyriwr yn dangos y rhif GUID 32 digid (ar dystysgrifau a ddyroddwyd ar ôl 1 Tachwedd 2007) gallwch ddefnyddio ein System Ddilysu Tystysgrif Ar-lein i gael cadarnhad o ddilysrwydd y cymhwyster.

Nodwch na fydd Prifysgol Cymru’n gallu delio â chais trydydd parti oni bai bod cydsyniad ysgrifenedig y myfyriwr hefyd yn cael ei gyflwyno.

GWYBODAETH GYFFREDINOL I FYFYRWYR A THRYDYDD PARTÏON

Byddwn yn anelu at ymateb i’ch cais o fewn 5 diwrnod gwaith i’w dderbyn. Byddwch yn ymwybodol y gallai’r broses gymryd mwy o amser os bydd angen i ni ymholi ceisiadau sydd â data anghyflawn, os nad yw’r data’n cyd-fynd â’n cofnodion ni neu os graddiodd y myfyriwr cyn 1983 (cyn sefydlu cofnodion cyfrifiadurol).

Fel Corff Dyfarnu, byddwch yn ymwybodol na allwn ddarparu tystlythyrau personol (cymeriad) ar gyfer myfyrwyr cyfredol na chyn-fyfyrwyr. Dylid cyfeirio ceisiadau o’r fath at y Corff / Sefydliad Addysgu lle bu’r myfyriwr yn astudio.

Nid ydym yn darparu unrhyw wybodaeth i gyfeiriadau ebost anghorfforaethol.

RHAGOR O WYBODAETH
Copïau Ardystiedig o Dystysgrifau

Mae notarïaid yn gyfreithwyr cymwysedig sy’n ymwneud yn bennaf â dilysu ac ardystio llofnodion a dogfennau i’w defnyddio dramor. I gael rhagor o wybodaeth yn y DU, gweler y Gymdeithas Notari: http://thenotariessociety.org.uk/

Yr Hague Apostille

Gwasanaeth ymylnodyn yw hwn sy’n symleiddio cyfreithloni dogfennau’r DU at ddefnydd rhyngwladol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.hagueapostille.co.uk/

CYSYLLTU  NI

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch y broses Cadarnhau Dyfarniadau, ebostiwch: registryhelpdesk@wales.ac.uk neu ysgrifennwch at y Brifysgol: Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NS.